Am y clwb

HMSG pool

Croeso i Clwb Nofio Monnow. Rydym yn glwb nofio cystadleuol wedi’i rhedeg gan
wirfoddolwyr. Ein nod yw helpu nofwyr o wyth oed cyrraedd eu potensial a mwynhau
cystadleuaeth drwy wella techneg a stamina.

Rydym yn ffodus i gael tîm o hyfforddwyr ac athrawon, sydd i gyd yn gymwys perthnasol gyda’r
ASA. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu hyfforddiant addas i bob cam o ddatblygiad nofiwr.

Mae gennym ddigon o amser yn y pwll ar gael gyda phum sesiwn drwy gydol yr wythnos.

Hyfforddi

Mae ein Prif Hyfforddwr, Jane Sambrook, yn cydlynu rhaglenni hyfforddi a datblygu ar gyfer pob
sgwad nofio Monnow. Mae ein hyfforddwyr i gyd yn gymwys hyd at o leiaf Lefel 1 gyda’r ASA, ac
rydym yn ymdrechu i gael hyfforddwr pwll Lefel 2 ym mhob sesiwn. Mae hyfforddwyr yn cael eu
hannog i gymryd hyfforddiant rheolaidd a chynnyddu i’r lefel nesaf yn eu datblygiad. Mae’r clwb yn
cefnogi rhieni sydd eisiau cymryd rhan a hyfforddi i fod yn hyfforddwyr cynorthwyol.

Amserlen

Mae’r sesiynau nofio fel a ganlyn:

Dydd Llun 6.15 – 7.45 y.p @ Ysgol y Meched Haberdashers

Dydd Mawrth 6.00 – 7.15 y.p @ Ysgol y Meched Haberdashers

Dydd Iau 6.00 – 7.30 y.p @ Ysgol y Meched Haberdashers

Dydd Gwener 6.00 – 7.30 y.p @ Ysgol y Meched Haberdashers

Dydd Sul 5.00 – 6.30 y.p @ Campfa Chwaraeon Ysgol Monmouth

Sgwadiau Nofio

Mae nofwyr yn cael eu rhoi i mewn i grwpiau sy’n cydnabod cam datblygu y nofiwr, gan ddechrau
o grŵp 5 ac yn gweithio hyd at grŵp 1. Bydd y sesiynau mae’r nofwyr yn mynychu yn dibynnu ar y
grŵp y maent yn cael eu rhoi i mewn

Grwp 5 sesiynau ¾-awr ar Ddydd Llun a Ddydd Gwener

Grwp 4 hyd at 4 noson yr wythnos (unrhyw ddydd)

Grwp 3 hyd at 5 noson yr wythnos (unrhyw ddydd)

Grwp 2 hyd at 5 noson yr wythnos (unrhyw ddydd)

Grwp 1 hyd at 5 noson yr wythnos (unrhyw ddydd)

Mae nofwyr yn cael eu hannog i fod yn bresennol ar yr un diwrnod bob wythnos.

Nid yw’r clwb fel arfer yn rhedeg ar Wyliau Banc neu dros gyfnod y Nadolig. Yn ystod gwyliau’r haf
mae’r amserlen yn llai.